Adref
Gwasanaethau Adref
Cwsmeiriad
Amdanom Ni
Linciau
Cysylltu

 

 

English Version

 


 
Amdanom Ni

Busnes teuluol yw Rhaglen.com; wedi ei leoli ar fferm ym mhentref Llwyndyrys ger Pwllheli. Roedd troi at gyfrifiaduron yn ffordd o arallgyfeirio oddi wrth y traddodiad teuluol o ffermio. Bellach mae profiad gennym yn y maes hwn ac rydym mewn safle i adeiladu arno.

Mae aelodau’r cwmni yn gymwysedig a phrofiadol mewn sawl agwedd o’r maes ac mae gennym brofiad helaeth a llawn mewn cynllunio a dylunio safleoedd Gwe o safon. Rydym yn gymwysiedig BsEcon (Marchnata), CIM (Chartered Institute of Marketing) ac wedi'n derbyn yn rhan o gylch @teb Cymru fel cynghorwyr Technoleg Gwybodaeth.

Gallwn gynnig ymgynghoriad llawn ar farchnata gan gynnwys deunydd o’r we fyd eang, ynghyd a hyn rydym yn medru rhaglennu mewn amryw o ieithoedd gan gynnwys SQL, PHP, ASP, HTML JavaScript a Perl. Rydym yn gallu gweithredu yn gwbwl ddwyieithog ac wedi ennill gwobr Bwrdd yr Iaith Gymraeg am ddylunio yn 2000.

Gallwn ryddhau grym eich cyfrifiadur trwy ddylunio cronfa ddata wedi ei chreu'n arbennig ar gyfer eich busnes chi, rydym yn arbenigo mewn MS Access ac mewn MySQL. Gallwn roi cyngor ar galedwedd gan gynnwys: cynllunio rhwydweithiau ar blatfform PC neu Apple, gosod darnau atodol, trwsio a chynghori ar bryniant.

Bydd ganddom ddarpariaeth ystafell ddysgu/cynadleddau yn y dyfodol agos ble gallwn gyfarfod i gyflwyno syniadaeth i’n cwsmeriaid. Bydd y ddarpariaeth hon ar gael i’w llogi ar gyfer cyfarfodydd, cynadleddau neu wersi. Mae gennym staff sydd yn arbenigwyr ar hyfforddiant ac addysg (BEd anrh. Athro cymwysedig)

Mae staff Rhaglen yn ymroddedig i roi chi y cwsmer yn gyntaf. Gallwch fod yn hollol hyderus fod yr holl staff yn gymwys i’r gwaith. Rhaglen.Com yw'r siop un stop i fusnesau'r ganrif newydd. Am fwy o fanylion cysylltwch a ni.

 
01758 750254 - © Rhaglen.com 2005 - post@rhaglen.com